![]() | |
Math | amgueddfa awyr agored, amgueddfa werin, amgueddfa genedlaethol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru ![]() |
Lleoliad | Adeilad Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ![]() |
Sir | Sain Ffagan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 29.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4869°N 3.2725°W ![]() |
Cod post | CF5 6XB ![]() |
Rheolir gan | Amgueddfa Cymru ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.
Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.